nicodafydd

Mae 'deryn bach yn dweud…

Mynnu bod yn rhan o’r drafodaeth

Ga i ddechrau trwy ddatgan ‘mod i’n ystyried cerddoriaeth yn gelf. Mae’n siwr wedyn fod yn rhaid i gerddoriaeth bop, pa bynnag mor boblogaidd, fod yn gelf hefyd. Pwrpas celf yw i ddweud rhywbeth, beth bynnag yw hynny. Dyma natur pob gweithred. Mae pob gweithred yno i ddweud rhywbeth. I mi, dyma’r unig ffordd i fesur gweithredoedd celfyddydol.

Beth bynnag, wedi darllen blogiadau gan Rhys Mwyn ac Aled Cowbois, dwi’n teimlo ‘mod i eisiau cyfrannu rhywfaint at y drafodaeth. Dwi wedi cwestiynnu Rhys cwpwl o weithiau am ei ddamcaniaeth o fesur gwerth band yn ol ei linyn ei hun yn y gorffennol. Yn ddiweddar, adolygodd EP Y Ffug, a nodais ar y pryd mai dweud mwy am ei hun oedd Rhys nag am y band wrth fynnu nad oeddent yn ddigon punk rock iddo ef. Dyw e ddim yn drywydd anarferol i hen scenesters ei gymryd. Roedd punk i Rhys yn y 70au a’r 80au yn ffordd o ddangos ei atgasedd at bopeth, ac mae’r meddylfryd hynny’n mynd i fod yn ddwfn yn ei isymwybod hyd yma dwi’n siwr; ac mae’n anodd wedyn i allu mesur celfyddyd y tu allan i gyfyngiadau punk rock. Yn aml, mae bod yn rhan o symudiad am amser hir yn eich gwneud yn geidwadol iawn i bopeth tu allan i’r swigen.

Nid ‘mod i’n cytuno gydag Aled yn gyfangwbl chwaith. Dwi yn meddwl bod yn rhaid i gerddoriaeth fod yn dweud rhywbeth. Ac mae’r rhan fwyaf ohono yn llwyddo i wneud hynny. Efallai ar adegau mai rhyw neges amwys, sydd ar goll i’r canwr/cyfansoddwr yw honno, ond mae pob can yn dweud rhywbeth am sefyllfa’r person a’i chreodd. Stori arall yw dadansoddi hynny. Dyw hi ddim yn iach i feddwl am gerddoriaeth bop fel ‘just pop’, yn enwedig pan ry’n ni gyd yn ymwybodol faint o benderfyniad gwleidyddol ydi canu yn Gymraeg beth bynnag. Mae hefyd yn magu cenhedlaeth o bobl ifanc beige nad sydd eisiau edrych am ystyr mewn dim byd, a sydd eisiau dadansoddi eu hangovers yn unig. Mae dadansoddi popeth yn beth da, a thrafodaeth yn iach.

Mae gwerth mawr mewn edrych ar gerddoriaeeth bop yn nhermau celf, gan edrych ar beth sy’n cael ei ddweud, ond mae’n bwysig wedyn ein bod yn edrych arno gyda meddwl agored, gan drio deall yr hyn sy’n cael ei ddangos i ni, yn lle trio rhoi ein rhagfarn drosto i gyd. Mae yna gasineb a chwyldro mewn cerddoriaeth bop, Rhys; ac mae yna bollocks cawslyd mewn punk rock. Erbyn hyn, genre yw punk – math o gerddoriaeth; delwedd. Os ti’n edrych am bobl sy’n mynd i herio’r system, mae angen stopio taro pen yn erbyn wal a chymryd golwg ar yr hyn sy’n digwydd.

Blue Jasmine

SONY-JUOS-01_Onesheet_Layout 1

Blue Jasmine

Woody Allen

12A, 98m

Stori Jasmine (Cate Blanchett) yw ffilm ddiweddaraf Woody Allen; stori go syml am fenyw o gefndir cyfoethog yn symud i fyw at ei chwaer dosbarth gweithiol (Sally Hawkins) wedi chwâl ei phriodas a hunanladdiad ei gwr (Alec Baldwin). Gwelwn y stori drwy ddwy linell amser; y cyfoes yn San Fransisco, ac ôl-fflachiadau hir yn ôl i fywyd Jasmine yn Efrog Newydd.

Fel nifer o ffilmiau Allen, mae ei gyffyrddiadau nodweddiadol yn amlwg o’r dechrau; cerddoriaeth jazz, deialog bachog, pwysigrwydd y lleoliad. Ond ar adegau, mae’r deialog yn teimlo’n drwm, gydag ystyr yr olygfa yn amlwg ar goll mewn hiwmor ysgafn. Anaml cawn wahaniaeth sylweddol ar ddiwedd golygfa.

blue jasmine cate blanchett

Mae Cate Blanchett yn wych; y gwrthdaro rhwng ei syniad o’i hun a’r sefyllfa y mae ynddi yn amlwg yn y gwythiennau ar ei thalcen a’r cryndod yn ei dwylo; a’r gymhariaeth rhwng hynny a’i bywyd yn ôl yn Efrog Newydd yn syfrdanol. Bron mor gryf mae ei chymeriad nes creu gwagle sylweddol rhyngddi hi a gweddill y cast.

Nid oes llawer i’r llygad yn y ffilm. Ceir ambell i leoliad crand, ond mae’r delweddau’n fflat a diflas, er bod defnydd effeithiol, er ychydig yn arwynebol o fframiau tynn a ffocws ar wyneb Blanchett mewn ambell i olygfa, i wthio’i phroblemau i’n hwynebau.

Nid hon fydd ffilm orau Woody Allen. Heb berfformiad Blanchett, gallai eich pasio yn hawdd, ond mae’r perfformiad hwnnw’n ddigon.

3/5

Fi yw Post-Punk

Dwi erioed wedi hoffi punk. Punk yw dinistr. Punk yw hedfan yn ddall mewn i’r frwydr heb syniad am beth mae’r ymladd; y diffyg gweledigaeth o beth all ddigwydd wedi’r ymladd. Punk yw teenage anarchy, ac nid fi yw hwnnw. Post-punk ydw i. A post-punk fydda i. Dwi ddim yn anarchaidd, just i’r chwith o hynny. Dawnsio mewn ar ôl y dinistr i geisio rhoi fy narlun ar gynfas wag. Dyna yw post-punk. Yn llythrennol, dyna ddigwyddodd gyda cherddoriaeth yn y 70au. Maen nhw’n galw 1977 fel ‘year zero’ yng nghylchoedd punk. Dyma pryd y chwalwyd cerddoriaeth. Penderfynwyd nad oedd hanes yn bodoli, nad oedd y Beatles na’r Stones yn bwysig mwyach. Dechrau o’r newydd; heb reolau, heb reswm, heb gyfeiriad. Dyma oedd punk. Ond wedi hynny, daeth Joy Division a’u cyfoedion, bron yn canu am y difrod achoswyd gan punk. Pa fwy ol-fodern gall cerddoriaeth fod? Roedd y bandiau post-punk, tra ‘roedd punk yn dal i fodoli, yn canu am y difrod o’u blaenau, ac am eu bywydau tu allan i gerddoriaeth; yn gweld y llwydni fyddai wedi’r ffrwydrad punk, ac yn poeni amdano. Dyma pam dwi’n post-punk. Dwi wastad yn mynd i boeni a meddwl am beth sy’n dod wedi’r chwyldro. Fyddai byth yn un i hedfan yn syth i mewn i frwydr. Dwi’n rhy self-aware. Self-conscious bron. Dyma pam dwi methu cweit byw yn y foment. Punk yw’r fyddin, a post-punk yw’r farddoniaeth hiraethus.

The Master

master_ver2

The Master

Paul Thomas Anderson

15, 144m

Gellir treulio oriau’n ceisio dadnsoddi pob ffram o ffilm ddiweddaraf Paul Thomas Anderson. Mae The Master yn dilyn stori Freddie Quell (Joaquin Phoenix), cyn forwr yn y llynges, a Lancaster Dodd (Philip Seymour Hoffman), arweinydd carismataidd ‘The Cause’ ar ol yr ail ryfel byd.

Chwaraea eironi ran allweddol yn y ffilm. Mae’r teitl, er ei gefndir, yn amwys iawn. Gellir ei benodi i nifer o’r cymeriadau. Mae Anderson yn ymchwilio’r natur ddynol, o anghenion sylfaenol, i reswm a phwrpas.

Prefformiad brawychus Phoenix sy’n ein tywys drwy’r stori, ei osgo a’i ystumiau lloerig ynghyd a’i natur fregus, ansefydlog yn ei wneud yn gymeriad annwyl. I’r gwrthwyneb, mae Lancaster Dodd yn garismatig ac yn ffedylgar. Mae perfformiad Amy Adams fel gwraig Dodd yn gyson, cynnil a diysgog, yn gwthio’r syniadaeth ymlaen mewn ffordd frawychus ar adegau, ond yn gweithio i gyfiawnhau ein dealltwriaeth mai ffordd Freddie o fyw sy’n ennill.

the_master_paul_thomas_anderson001

Ceir golygfeydd pwerus, yn gwthio’r neges hyd y diwedd. Ceir symud yn ol ac ymlaen rhwng Dodd a Freddie, a chedwir y diweddglo yn wir nes y diwedd. Dim ond wrth weld Freddie mewn gwely gyda merch y deallwn bwrpas Anderson wrth greu’r ffilm.

Cadwaf yr olaf o’r eironi i Anderson ei hun. Mae’r ffilm hon amdano ef; am ei lwybr ef i ddarganfod ystyr, ac, yn fwy na hynny, perffeithrwydd. Fel Lancaster Dodd, nid yw yno eto, ond mae’n agosach at y nod, ac ni fydd yr eironi hynny wedi ei basio ef.

4.5/5

Les Miserables

Delwedd

Les Miserables

Tom Hooper

12A, 158m

Mae addasiad Tom Hooper o’r sioe gerdd fyd-enwog yn teimlo fel ffilm gafodd ei chreu dan bwysau. Mae’r dynfa rhwng cadw’n driw i’r sioe a chreu ffilm ‘newydd’ yn amlwg yn y golygu brysiog a llif y golygfeydd. Does prin amser i ymsugno’r tristwch sydd yn llais hyfryd Anne Hathaway (Fantine) cyn i ni gael ein hyrddio yn ol i bantomeim gweddill y ffilm. Mae’r eiliadau prin o deimlo tosturi dros y cymeriadau wedi eu boddi gan y disgwyliad am y gan nesaf, waeth beth ‘rydych yn gwybd am y ffilm.

Yr hyn mae Tom Hooper wedi ei greu yw fframiau bychan o burdeb perfformiadol – unawd Hathaway, a deuawd Marius (Eddie Redmayne) a Eponine (Samantha Brooke) – sy’n eistedd gwbl ar wahan wrth ei gilydd. Cawn ein llusgo o un i’r llall, heb gael cymryd anadl, na sylweddoli pwysigrwydd y golygfeydd.

Delwedd

Gwna’r cast y mwya’ o’u cyfleoedd gan fwyaf, ond ffol oedd dewis y disgwyliedig Helena Bonham Carter a Sacha Baron Cohen i chwarae’r Thenardiers; er eu perfformiadau lliwgar, safonol, tynnu oddi wrth awyrgylch y ffilm mae eu cymeriadau. Nid hon fydd ffilm orau Russell Crowe (Javert) chwaith, ei ddiffyg emosiwn yn achosi i ni golli’n llwyr tynfa foesol ei gymeriad.

Ond am rai o’r perfformiadau, Hathaway a Redmayne yn enwedig, diflas, hir a di-drugaredd yw’r ffilm hon. Mae’r caneuon, mor effeithiol ar lwyfan yn teimlo’n ail-adroddus ar sgrin, a chynnwys cynifer o wynebau mewn ensemble yn profi’n dasg anodd i’r golygydd. Mewn ugain mlynedd, fe edrychwn yn ol ar y ffilm hon gyda gwen fach ac ysgydwad o’r pen.

2/5

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn