Les Miserables

by nicodafydd

Delwedd

Les Miserables

Tom Hooper

12A, 158m

Mae addasiad Tom Hooper o’r sioe gerdd fyd-enwog yn teimlo fel ffilm gafodd ei chreu dan bwysau. Mae’r dynfa rhwng cadw’n driw i’r sioe a chreu ffilm ‘newydd’ yn amlwg yn y golygu brysiog a llif y golygfeydd. Does prin amser i ymsugno’r tristwch sydd yn llais hyfryd Anne Hathaway (Fantine) cyn i ni gael ein hyrddio yn ol i bantomeim gweddill y ffilm. Mae’r eiliadau prin o deimlo tosturi dros y cymeriadau wedi eu boddi gan y disgwyliad am y gan nesaf, waeth beth ‘rydych yn gwybd am y ffilm.

Yr hyn mae Tom Hooper wedi ei greu yw fframiau bychan o burdeb perfformiadol – unawd Hathaway, a deuawd Marius (Eddie Redmayne) a Eponine (Samantha Brooke) – sy’n eistedd gwbl ar wahan wrth ei gilydd. Cawn ein llusgo o un i’r llall, heb gael cymryd anadl, na sylweddoli pwysigrwydd y golygfeydd.

Delwedd

Gwna’r cast y mwya’ o’u cyfleoedd gan fwyaf, ond ffol oedd dewis y disgwyliedig Helena Bonham Carter a Sacha Baron Cohen i chwarae’r Thenardiers; er eu perfformiadau lliwgar, safonol, tynnu oddi wrth awyrgylch y ffilm mae eu cymeriadau. Nid hon fydd ffilm orau Russell Crowe (Javert) chwaith, ei ddiffyg emosiwn yn achosi i ni golli’n llwyr tynfa foesol ei gymeriad.

Ond am rai o’r perfformiadau, Hathaway a Redmayne yn enwedig, diflas, hir a di-drugaredd yw’r ffilm hon. Mae’r caneuon, mor effeithiol ar lwyfan yn teimlo’n ail-adroddus ar sgrin, a chynnwys cynifer o wynebau mewn ensemble yn profi’n dasg anodd i’r golygydd. Mewn ugain mlynedd, fe edrychwn yn ol ar y ffilm hon gyda gwen fach ac ysgydwad o’r pen.

2/5