Fi yw Post-Punk

by nicodafydd

Dwi erioed wedi hoffi punk. Punk yw dinistr. Punk yw hedfan yn ddall mewn i’r frwydr heb syniad am beth mae’r ymladd; y diffyg gweledigaeth o beth all ddigwydd wedi’r ymladd. Punk yw teenage anarchy, ac nid fi yw hwnnw. Post-punk ydw i. A post-punk fydda i. Dwi ddim yn anarchaidd, just i’r chwith o hynny. Dawnsio mewn ar ôl y dinistr i geisio rhoi fy narlun ar gynfas wag. Dyna yw post-punk. Yn llythrennol, dyna ddigwyddodd gyda cherddoriaeth yn y 70au. Maen nhw’n galw 1977 fel ‘year zero’ yng nghylchoedd punk. Dyma pryd y chwalwyd cerddoriaeth. Penderfynwyd nad oedd hanes yn bodoli, nad oedd y Beatles na’r Stones yn bwysig mwyach. Dechrau o’r newydd; heb reolau, heb reswm, heb gyfeiriad. Dyma oedd punk. Ond wedi hynny, daeth Joy Division a’u cyfoedion, bron yn canu am y difrod achoswyd gan punk. Pa fwy ol-fodern gall cerddoriaeth fod? Roedd y bandiau post-punk, tra ‘roedd punk yn dal i fodoli, yn canu am y difrod o’u blaenau, ac am eu bywydau tu allan i gerddoriaeth; yn gweld y llwydni fyddai wedi’r ffrwydrad punk, ac yn poeni amdano. Dyma pam dwi’n post-punk. Dwi wastad yn mynd i boeni a meddwl am beth sy’n dod wedi’r chwyldro. Fyddai byth yn un i hedfan yn syth i mewn i frwydr. Dwi’n rhy self-aware. Self-conscious bron. Dyma pam dwi methu cweit byw yn y foment. Punk yw’r fyddin, a post-punk yw’r farddoniaeth hiraethus.