Mynnu bod yn rhan o’r drafodaeth

by nicodafydd

Ga i ddechrau trwy ddatgan ‘mod i’n ystyried cerddoriaeth yn gelf. Mae’n siwr wedyn fod yn rhaid i gerddoriaeth bop, pa bynnag mor boblogaidd, fod yn gelf hefyd. Pwrpas celf yw i ddweud rhywbeth, beth bynnag yw hynny. Dyma natur pob gweithred. Mae pob gweithred yno i ddweud rhywbeth. I mi, dyma’r unig ffordd i fesur gweithredoedd celfyddydol.

Beth bynnag, wedi darllen blogiadau gan Rhys Mwyn ac Aled Cowbois, dwi’n teimlo ‘mod i eisiau cyfrannu rhywfaint at y drafodaeth. Dwi wedi cwestiynnu Rhys cwpwl o weithiau am ei ddamcaniaeth o fesur gwerth band yn ol ei linyn ei hun yn y gorffennol. Yn ddiweddar, adolygodd EP Y Ffug, a nodais ar y pryd mai dweud mwy am ei hun oedd Rhys nag am y band wrth fynnu nad oeddent yn ddigon punk rock iddo ef. Dyw e ddim yn drywydd anarferol i hen scenesters ei gymryd. Roedd punk i Rhys yn y 70au a’r 80au yn ffordd o ddangos ei atgasedd at bopeth, ac mae’r meddylfryd hynny’n mynd i fod yn ddwfn yn ei isymwybod hyd yma dwi’n siwr; ac mae’n anodd wedyn i allu mesur celfyddyd y tu allan i gyfyngiadau punk rock. Yn aml, mae bod yn rhan o symudiad am amser hir yn eich gwneud yn geidwadol iawn i bopeth tu allan i’r swigen.

Nid ‘mod i’n cytuno gydag Aled yn gyfangwbl chwaith. Dwi yn meddwl bod yn rhaid i gerddoriaeth fod yn dweud rhywbeth. Ac mae’r rhan fwyaf ohono yn llwyddo i wneud hynny. Efallai ar adegau mai rhyw neges amwys, sydd ar goll i’r canwr/cyfansoddwr yw honno, ond mae pob can yn dweud rhywbeth am sefyllfa’r person a’i chreodd. Stori arall yw dadansoddi hynny. Dyw hi ddim yn iach i feddwl am gerddoriaeth bop fel ‘just pop’, yn enwedig pan ry’n ni gyd yn ymwybodol faint o benderfyniad gwleidyddol ydi canu yn Gymraeg beth bynnag. Mae hefyd yn magu cenhedlaeth o bobl ifanc beige nad sydd eisiau edrych am ystyr mewn dim byd, a sydd eisiau dadansoddi eu hangovers yn unig. Mae dadansoddi popeth yn beth da, a thrafodaeth yn iach.

Mae gwerth mawr mewn edrych ar gerddoriaeeth bop yn nhermau celf, gan edrych ar beth sy’n cael ei ddweud, ond mae’n bwysig wedyn ein bod yn edrych arno gyda meddwl agored, gan drio deall yr hyn sy’n cael ei ddangos i ni, yn lle trio rhoi ein rhagfarn drosto i gyd. Mae yna gasineb a chwyldro mewn cerddoriaeth bop, Rhys; ac mae yna bollocks cawslyd mewn punk rock. Erbyn hyn, genre yw punk – math o gerddoriaeth; delwedd. Os ti’n edrych am bobl sy’n mynd i herio’r system, mae angen stopio taro pen yn erbyn wal a chymryd golwg ar yr hyn sy’n digwydd.